Tudalen:Llyfr Haf.pdf/21

Gwirwyd y dudalen hon

V

YR YCH GWYLLT

CHWI welwch ar wyneb-ddalen y llyfr hwn anifail sy'n prysur gilio o flaen gwareiddiad, sef yr ych gwyllt.

Y mae'r ych gwyllt, yr auroch, bron a diflannu o'r hen fyd, os nad ydyw wedi gwneud. Ei gartref olaf yn Ewrob oedd Poland a Rwsia, hyd fynyddoedd Caucasus, lle y daliodd ei dir yn hir yn erbyn dyn, arth, a blaidd.

Ond yng Ngogledd Amerig y gwyddom ni fwyaf amdano. Yno crwydrai tros hanner cyfandir, o'r Great Slave Lake yn y gogledd hyd gyffiniau Mecsico yn y de. Ar hyd y paith maith gwelid gyrraedd o hono yn cynnwys miliynau, ac yn duo'r ddaear cyn belled ag y gwelai'r llygad. Byddai raid i'r trên arafu, ac aros weithiau, gan dyndra'r gyr. Erbyn heddiw y mae'n prysur ddiflannu.

Beth yw'r gwahaniaeth rhyngddo ac ych dof neu wartheg? Ei fwng, ei gorn byr, y crwmach ar ei ysgwydd, ei daldra, y mae'r tarw'n chwe throedfedd o uchter. Hoff ganddo ymdrybaeddu yn y llaid, i gael gwasgod i rwystro pryfed rhag ei bigo. Nid yw mor berygl ag yr edrych, creadur llonydd ac ofnus yw ond pan fo wedi ei gynddeiriogi.