Tudalen:Llyfr Haf.pdf/22

Gwirwyd y dudalen hon

2. Bu'r Indiaid cochion yn genhedloedd lluosog yn yr Amerig, yn pabellu yma ac acw ymysg yr ychen gwyllt, ac yn byw ar helwriaeth. Ond cyflym ddarfod y maent hwythau ers blynyddoedd. lawer. Pan oeddwn i'n blentyn clywem lawer o hanes eu creulonderau at y dyn gwyn, fel y llosgent ei gartref unig yn y coed, fel y lladdent ei wraig a'i blant diniwed, fel y gwisgent grwyn pennau dynol wrth eu gwregys. Ond, erbyn hyn, nid oes ond ychydig ohonynt yn aros; ac y maent yn awr yn dirion, a hyd yn oed yn prynu sebon. Y mae cenedl fwy na hwy yn awr yn eu gwlad. Mae'r fuwch flith a'r ych dof yn fwy cymwys i fyw yn awr, ac nid oes le i'r heliwr cadarn mwy,—yn oes heddwch y byd. A phan ddiflanna ymherawdwyr gyda'r auroch a'r ysbeiliwr, daw heddwch llariaidd i fyd dyn hefyd.