Tudalen:Llyfr Haf.pdf/30

Gwirwyd y dudalen hon

VIII

EIRTH Y MYNYDDOEDD CREIGIOG

LAWENHA plant Cymru wrth weled y gwanwyn a'r haf yn dod. Y mae'n dda ganddynt gael y tywydd cynnes braf, a gweld y gwair ar y dolydd, a'r blodau ar ochrau'r ffyrdd. A hoff ganddynt weld y gwartheg yn y caeau, a chlywed yr adar yn y coed. Ond yr hoffaf peth yw gweld a chlywed hen gyfeillion fu i ffwrdd ymhell o'r wlad yn y gaeaf du. Y pennaf o'r rhai hyn yw y wennol a'r gog. A mawr yw eu croeso, a chroeso yr haf sy'n dod a hwy.

Ond beth pe buasai'r arth yn dod gyda hwy, o ryw goed yn ymyl eich tŷ. Nid arth wen fawr y pegwn yr wyf yn meddwl, ar bysgod y mae hi yn byw, ac y mae yn weddol ddiniwed os gadewch lonydd iddi a chadw o'i llwybr. Ac nid arth lwyd Ewrob yr wyf yn meddwl ychwaith, un a fu yng Nghymru gynt; nid ar gig y mae hithau'n byw, ond ar lysiau, a hoff ganddi fêl a morgrug yn amheuthun.

2. Am arth y Mynyddoedd Creigiog, yn yr Amerig, yr wyf yn sôn. Bydd yr eirth hyn yn cysgu drwy'r gaeaf. Pe byddech yn mynd am dro trwy'r coed,