Tudalen:Llyfr Haf.pdf/31

Gwirwyd y dudalen hon

hwyrach bod arth yno, yn cysgu'n drwm, dan ddail sychion, melyn, a chwrlid o eira gwyn.

Ond gyda'r gwanwyn deffry. A bydd yn wancusam fwyd ar ôl ei hympryd hir. Rhuthra o'r coed i chwilio am, rywbeth i dorri ei newyn. Y pethau fydd ar ei llwybr weithiau, a gwae iddynt,—fydd iyrchod, defaid, ŵyn, a phlant.

3. Chwi wyddoch am y Mynyddoedd Creigiog. Cadwyn anferth ydynt, ar hyd Gogledd Amerig, fel asgwrn cefn y wlad. I'r gorllewin y mae llain hir o daleithiau rhwng y mynyddoedd hyn a glannau'r Môr Tawel,—Alasca eirog, Columbia oludog, Oregon ffrwythlawn, Califfornia hyfryd. ac Arisona sech. Yr ochr arall, rhyngddynt ac Iwerydd, y mae toreth taleithiau Canada, yr Unol Daleithiau, a Mecsico. Ni wn yn siwr i ba drefydd y mae'r arth hon yn crwydro. Ond pe elwn tua Donald yn Columbia, Boisé yn Idaho, Dinas y Llyn Halen yn Uta, buaswn yn gofyn i bobl y ffordd haearn a welsant hwy eirth y mynyddoedd. Byddai ar Indiaid Wyoming arswyd wrth feddwl am yr arth, a thalent ryw fath o addoliad iddi; ond bwytaent ei chig mewn gloddest mawr wedi ei lladd.