Tudalen:Llyfr Haf.pdf/36

Gwirwyd y dudalen hon

X

Y TSIMPANSÎ

1. PAN yn fychan iawn, y mae'r Tsimpansî yn debyg i blentyn drwg, croes, garw iawn am ei feddwl ei hun. Daeth un ieuanc i'r wlad yma unwaith, ac yr oedd yn hoff o wraig a edrychai ar ei ôl fel pe buasai fam iddo. Weithiau cerddai wrth ei hochr ar ei draed ôl. gan gydio yn ei gown, fel plentyn.

2. Ryw dro, wrth chwarae ag ef, daliodd gŵr bonheddig ddrych bychan o'i flaen. Synnodd, aeth yn berffaith lonydd ar unwaith, edrychai'n fud ar ei lun yn y drych, ac yroedd fel pe'n rhyfeddu. Edrychodd i fyny ar y dyn, yna dechreuodd ail edrych ar y drych. Yr oedd bysedd y dyn wrth ddal y drych yn y golwg; teimlodd y mwnci y rhai hynny'n fanwl, yna ceisiodd weld beth oedd y tu ôl i'r drych. Rhoddodd ei ddwylo yn sydyn y tu ôl iddo; ac wrth deimlo nad oedd dim yno, yr oedd ei syndod yn fwy.

A fuoch chwi ryw dro yn dal drych o flaen cath fach? Os do, yr ydych yn cofio ei hystryw ddiniwed i geisio dal y gath fach a welai'n edrych arni o'r drych.

3. Dywedir fod dyn a'r Tsimpansî yn perthyn i'r un tylwyth. Ond y mae'r berthynas yn bell iawn, nid yw ond perthynas corff yn unig.

Peth rhyfedd iawn fod ar y Tsimpansî arswyd y sarff. Rhed yn union at ddyn i gael amddiffyn.