Tudalen:Llyfr Haf.pdf/40

Gwirwyd y dudalen hon

XII

YR YSBRYDION

Y MAE tri theulu mawr yn meddu rhyw debygrwydd corff i'w gilydd, sef teulu dyn, teulu'r mwnci, a theulu'r lemur.

Gair Lladin am ysbrydion yw lemures. Gelwir y lemuriaid yn ysbrydion oherwydd mai yn y nos y gwibiant drwy'r coedwigoedd. Yn y dydd y daw'r mwnciod allan, a bydd y goedwig y maent yn byw ynddi yn llawn o brysurdeb a sŵn tra fo'r haul yn tywynnu; ond wedi machlud haul, distawa popeth. Ond am y goedwig y mae'r lemuriaid yn byw ynddi, y mae honno 'n ddistaw fel y bedd. yn ystod y dydd. Ond gyda'r gwyll, gwelir bodau eiddil, ystwyth, â llygaid fflamllyd, a gyddfau gwynion, yn neidio'n heinif distaw rhwng canghennau'r coed, a thybiodd llawer un ofergoelus mai ysbrydion oeddynt. Y mae eu sŵn yn annaearol hefyd; rhed eu llais tros y nodau yn uwch, uwch o hyd, a gallech feddwl bod eu holl nerth yn mynd i'w hudiad.

2. Ynys dywyll Madagascar, gyda'i hin boeth a'i choedwigoedd aml, yw eu cartref. Gellir eu dofi, ac y maent yn hynod ddigrif a chwareus. chwaraeant â phellen fel cath fach, a gwnânt bob math o driciau direidus. Ond yn y nos yn unig y chwaraeant. Yn y dydd y maent yn swrth a chysglyd; ond deffroant at y nos, ac ni byddant yn llonydd am un munud.