Tudalen:Llyfr Haf.pdf/42

Gwirwyd y dudalen hon

XIII

Y GLWTH

Y GLWTH yw'r mwyaf o deulu'r wenci. Y mae mae ganddo berthynasau mwy, yn perthyn yn bellach iddo, yn enwedig yr arth. Cafodd ei enw ar gam. Tybid ei fod yn fwy glwth na'r un creadur arall, a'i fod yn hoff o fwyta mwy na'i lond. Ond nid yw hyn yn fwy gwir amdano nag am lawer creadur arall.

Ceir ef yng ngogledd yr hen gyfandir a'r newydd, yn enwedig yn Siberia a Khamstchatka.

2. Afrosgo yw o'i gymharu â llawer o'i berthynasau chwim. megis y wenci a'r carlwm. Ond y mae ganddo, nid yn unig nerth rhyfeddol o fawr, ond deallgarwch sydd bron yn ddynol. A digrif yw ystraeon helwyr am ei gastiau, yn enwedig fel y medr ddianc rhag eu rhwydau hwy. Cerdda'n ofalus heibio i'r trapiau. Os bydd y trap wedi dal carlwm, bwyta'r Glwth ef. Os bydd y trap yn wag, bwyta'r abwyd sydd ynddo; ond bydd ganddo ryw ddyfais bob amser i rwystro'r trap rhag cau ar ei drwyn. Y mae ei gallineb yn hyn o beth, meddir. yn fwy na llwynogaidd, y mae bron yn ddynol.

Mewn un peth arall y mae'n debyg iawn i ddyn. Pan wêl rywun yn dod, eistedd i lawr yn hamddenol, a chysgoda ei lygaid â'i balf i edrych pwy sy'n dod.

3. Y mae ambell anifail direswm fel hyn, a'i ymddygiad mor debyg i ymddygiad dyn, fel y mae ar yr heliwr ofn ei saethu.