Tudalen:Llyfr Haf.pdf/44

Gwirwyd y dudalen hon

XIV

YR HEN BEDOL

UN o greaduriaid prydferthaf y byd ydyw'r march Arabaidd. Y mae'n lluniaidd, yn wisgi, ac yn dlws. Yn yr anialwch tywodlyd y mae'n byw. Medr redeg yn fuan, a dal ati am hir. Ef yw hoff gyfaill yr Arab. Heb ei farch ni allai fyw. Pe collai ei farch yn y diffeithwch maith, collai ei fywyd. Pan fydd wedi colli'r ffordd, ac yn rhy luddedig bron i feddwl, gad i'r march fynd fel y mynno. Ac y mae'r creadur ffyddlon yn sicr o'i ddwyn adref, neu ddod. ag ef at ddwfr i dorri ei syched.

2. Anaml y mae'r wlad yn greigiog iawn, tywodlyd ydyw gan mwyaf. Ac am hynny ni fydd yr Arab yn pedoli ei feirch. Yn wir, ni wyr beth ydyw pedol. Rhyw dro, yr oedd Arab ar daith heb fod ymhell o ddinas Mosul. Wrth groesi'r diffeithwch, beth a welai ar lawr ond hen bedol. Cododd hi, a rhyfeddai beth ydoedd. Ond ni fedrai ddyfeisio beth oedd.

Aeth a hi gydag ef adref. Safodd holl ddoethion ei lwyth mewn barn uwch ei phen. Ac wedi hir gyngor, penderfynwyd mai hen leuad wedi gwisgo allan, ac wedi syrthio o'r nefoedd i'r ddaear, oedd hi.