Tudalen:Llyfr Haf.pdf/46

Gwirwyd y dudalen hon

XV

Y MORLO BRITH

UN o'r morloi lleiaf yw hwn, rhyw dair neu bedair troedfedd o hyd. Ceir ef ar dueddau deheuol Greenland, o gwmpas Ynys yr Ia, ac ar lannau Spitzbergen.

1. Pan yn ieuanc y mae'n wyn, gyda gwawr felen, a'r blew'n grych. Fel y tyf, try ei liw yn wyrdd tywyll, gyda llanerchau modrwyog gwynion hyd ei gefn.

2. Y mae'r morloi hyn yn heigio moroedd y gogledd, ond lleddir hwy, gan ddyn yn enwedig, wrth yr hanner can mil y flwyddyn. Y maent yn hanfodol i'r Escimo; eu crwyn yw eu dillad, a'u cig yw eu bwyd.

Erys yr Escimo yn amyneddgar uwchben y tyllau yn y rhew lle daw'r morlo i anadlu. Yna rhoddant dryfer ynddo, a thynnant ef i'r lan.

3. Gall y morlo fyw ar y tir ac yn y dŵr. Gall ddianc rhag dyn i'r dwfr dan y rhew; gall ddianc rhag ei elynion o'r dwfr i wyneb y rhew. A rhwng chwarae yn y dwfr, gorffwys ar y rhew, ac ymheulo ar y creigiau, nid yw ei fywyd heb ei ddedwyddwch.