Tudalen:Llyfr Haf.pdf/50

Gwirwyd y dudalen hon

XVII

CWNINGOD

1. YM mis Awst, pan fydd yr haul yn gynnes ar y caeau, a digon o lysiau gwyrddion ymhobman, gallech feddwl bod y cwningod yn hapus iawn. Ac, yn wir, felly y maent.

Y mae cartref y cwningod yn noddfa ddiogel iddynt. Cloddiant dwll yn y ddaear, ac yna gwnânt dynel hir, ac yno, ymhell o gyrraedd dyn a chi, y mae eu lloches glyd. Bryniau tywodlyd sychion sydd wrth eu bodd i wneud eu cartref ynddynt, yn enwedig os bydd llwyni o eithin ar hyd-ddo. Turiant yn hawdd i'r bryn tywodlyd, ac y mae ganddynt ddigon o le i lawr yn eu cartref tywyll ond clyd a sych.

2. Yn rhai o'r ystafelloedd hyn y megir y rhai bychain. Y maent hwy yn bur ddiamddiffyn,— yn noethion a deillion pan yn fabanod. Ond y mae y fam wedi gwneud eu nyth yn gynnes â blew fydd wedi dynru o'i gwisg ei hun. Cyn mynd allan i chwilio am fwyd, gofala am gau yr ystafell y mae y rhai bach ynddi â phridd; ac nid oes neb ond hi'n gwybod lle y maent. Ac nid â yno ond yn y nos, rhag ofn i ryw elyn wybod lle y mae ei rhai bach yn llechu.

Llysiau yw bwyd y cwningod. Os bydd eithin o amgylch eu llochesau, bwytânt y rhai hynny; y mae y blagur ieuanc yn fwyd wrth eu bodd. Ond weithiau, er iddynt sefyll ar eu traed ôl, y mae llawer o'r blagur hwn yn rhy uchel iddynt fedru ei gyrraedd.