Tudalen:Llyfr Haf.pdf/51

Gwirwyd y dudalen hon

3. Fel pawb ohonom, ni chaiff y ewningod bob amser ddewis lle eu cartref na natur eu bwyd. Os bydd raid iddynt fyw ar ddaear wleb, ni fyddant yn tyllu i honno; eithr gwnânt ryw fynedfeydd hirion trwy'r grug, neu'r eithin, neu'r glaswellt bras fydd yn tyfu yno. Ambell dro, gwnânt eu cartref mewn hen geubren; ac felly byddant yn byw mewn ty pren.

4. Yn y nos y deuant allan i fwyta, ac i chwarae, a than olau'r lleuad y mae hawsaf eu gweld. Difyr iawn yw gweld eu pranciau hapus. Mae'n rhaid y bydd y rhai ieuainc wrth eu bodd yn cael chwarae allan, yn lle gorfod mynd i'w gwelyau yn yr ystafell fechan, dywyll, honno tan y ddaear. Ond y maent mewn perygl beunydd: y mae adar nos, fel y dylluan, yn chwilio am danynt yn ysglyfaeth.

Pethau bach tlysion ydynt, o liw llwyd golau, a'u blew yn esmwyth iawn. Ac y maent yn hollol ddiniwed. Ni frathant.

5. Y mae ganddynt glustiau mawrion, er eu bod yn llai na chlustiau'r ysgyfarnog, a chlywant yn dda. Y mae ganddynt lygaid mawr, hefyd, a gwelant yn eithaf wedi nos. A da fod ganddynt glust a llygad, oherwydd y mae llawer yn ceisio eu bywyd. Pan wêl un ohonynt berygl, dechreua redeg tua'r tyllau. Rhed y lleill ar ei hôl, a buan iawn y byddant wedi diflannu tan y ddaear.

6. Wrth redeg, codant eu cynffonnau i fyny; a chan fod y gynffon yn wen dani, y maent fel pe'n codi baneri gwynion i fyny. Y mae golwg ddigrif