Tudalen:Llyfr Haf.pdf/52

Gwirwyd y dudalen hon

iawn ar y llu cynffonnau gwynion pan fydd ugeiniau a channoedd o wningod yn rhedeg am eu bywyd yn un dyrfa gymysg brysur. Y mae gweld y gynffon wen yn ei wneud yn beth hawdd i filgi eu dilyn neu i ddyn eu saethu. Pam y mae Natur yn eu dysgu i wneud peth a ymddengys mor ffôl a pherygl. Y farn gyffredin yw eu bod yn codi'r gynffon wen er mwyn i'w cyfeillion, ac yn enwedig eu rhai bach, weld ffordd y rhedant i ddiogelwch.

7. Nid ydynt yn darparu bwyd at y gaeaf, fel y gwiwerod. Ond medrant ymdaro yn eithaf; cânt ryw lysiau i'w bwyta trwy'r gaeaf. Ond weithiau, os bydd eira mawr ar y ddaear am hir, bydd yn galed iawn arnynt; a'r adeg honno cnoant risgl coed ffrwythau, a bydd y coed farw i gyd os dirisglir eu bonau.

Ni fedr cwningod fyw ond lle y mae bwyd glas. trwy'r flwyddyn. Felly, ni cheir hwy yng ngogledd a dwyrain Ewrob; buan y buasai'r gaeaf a newyn a'r blaidd yn eu difa yno. Ond cawsant gartref newydd yn Awstralia. Aeth ymfudwyr a hwy yno. Amlhânt yn fuan iawn, bydd llu o rai bach yn eu mysg bob amser, ac y maent bron yn bla yn Awstralia. Difânt y coed a'r llysiau yn y tymhorau sychion, ac y mae bron yn amhosibl eu difa hwy.

Ond, yn y wlad hon, gwnânt lawer iawn o dda; ac ni wnânt ddrwg i goed ond ar ambell aeaf eithriadol o galed. Pethau bach tlysion, difyr, diniwed, ydynt; hawdd eu dofi; cyfeillion i ni.