Tudalen:Llyfr Haf.pdf/54

Gwirwyd y dudalen hon

XVIII

YR EOG

1. MAE rhywbeth yn brydferth, os nad yn fawreddog, yn ymdaith y pysgodyn hardd a glân hwn drwy ddyfroedd afonydd a moroedd. Y mac ei ben a'i gefn yn lasddu ddisglair, ei ochrau ac odditanodd yn ariannaidd wyn. Yma ac acw y mae ysmotiau duon megis yn ychwanegu at ei dlysni.

2. Yn y gwanwyn a'r haf, pan fydd dwfr ein haberoedd yn lân, daw'r eog o'r môr i'n hafonydd, ac ymdeithia'n ddiorffwys, drwy ryw reddf ryfedd, nes cyrraedd graean glân, mewn rhyw nant fynyddig. Môr y Gogledd yw ei hoff gartref, ni cheir ef yn y Môr Canoldir. Daw i fyny Rhein, ceir ef yn afonydd Rwsia, Sweden, Norway, Ynys yr Ia, a Greenland. A daw i'n hafonydd ninnau. Hoff gan lawer bysgota amdano yn Nyfrdwy a Lledr a Dyfi, yn Nhywi a Hafren a Gwy. Ceir ef yn afonydd yr Amerig hefyd, a gofelir yn llawer gwell yno am y pysgodyn gwerthfawr,—brenin y pysgod ar lawer cyfrif, hoff ddanteithfwyd byd.

3. Daw i'n haberoedd trwy lawer o anawsterau. Rhaid iddo lamu tros greigiau, er mwyn esgyn o lyn i lyn. A welsoch chwi eog yn llamu? Ymffurfia ei hun yn gylch, ymdeifl ei hun i fyny, gan fflachio fel arian ac aur yn yr haul. Yn aml