Tudalen:Llyfr Haf.pdf/55

Gwirwyd y dudalen hon

neidiant i fyny wyth troedfedd neu ddeg; a gall rhai neidio o ddeuddeg troedfedd i bedair ar ddeg yn syth ar i fyny. Y mae gelynion iddynt ar y ffordd. Er dod i fyny Dyfrdwy, ychydig a fedr fynd trwy Lyn Tegid i'w haberoedd uchaf; y mae y penhwyad ysglyfaethgar yno, ac yn gwylio pob eog. Wedi cyrraedd graean glân, lle tery'r haul cynnes ar y dwfr, ymgladda'r eog yng ngwely'r afon, ac yno dodwyir yr wyau. Yna â'r eog, y gwryw'n goch a'r fenyw'n ddu erbyn hyn, yn ôl i fwynhau dŵr yr afonydd.

4. Pan ddaw'r eogiaid bach o'r wyau, ni fydd yno neb i roi bwyd na chyngor iddynt. Pethau bach â phennau a llygaid mawr ydynt, yn newid eu gwisgo hyd,—llwydwyn rhesog i ddechrau, yna llwytgoch, yna glaswyn. Eu bwyd yw'r pryfed a geir yn yr afon. Toc, daw rhyw ysfa atynt am fynd i lawr i'r môr. Yn bethau bychain dwyflwydd oed, cychwynnant, ddeugain neu hanner cant gyda'i gilydd. Y maent yn ofnus iawn. Cadwant gyda'r lan cyhyd ag y gallant, ac yn y dŵr llonydd. Pan glywant sŵn rhaeadr, daw dychryn trostynt. Troant eu pennau'n ôl, i gyfeiriad eu hen gartref. Ymhen hir a hwyr, gedy'r dewraf ohonynt i'r dŵr eu cludo i ben y dibyn, a throsodd ag ef. Yna daw'r cwbl ar ei ôl, ar draws ei gilydd, a chânt orffwys ar ôl eu braw yn y llyn tawel islaw. Wedi cyrraedd y môr, tyfant yn gyflym. Ac yn eu hamser, yn bysgod brafiach a dewrach, deuant hwythau'n ôl.