Tudalen:Llyfr Haf.pdf/58

Gwirwyd y dudalen hon

XIX

Y DYRNOGYN

1. DYWEDAIS na fedr yr eog fynd trwy lyn Tegid oherwydd perygl ei ysglyfio gan y penhwyad cyflym, newynog, nad yw, meddir, byth yn cysgu. Ond y mae yn y llyn. hwnnw heidiau mawrion o ddyrnogiaid; ac er nad ydynt mor flasus a'r cogiaid, eto y maent yn fwyd a dyr newyn dyn a phenhwyad. Paham y medrant hwy fyw yn yr un dŵr â'r penhwyad?

Edrychwch ar esgyll y dyrnogyn, yn enwedig ar yr asgell sy'n codi'n wrychyn oddiar ei gefn. Beth a feddylia'r penhwyad wrth edrych arno, tybed? "Bwyd da," eb ef, "oni bai am y pigau acw; cwyd y rhai acw rywbeth gwaeth na diffyg treuliad."

2. Y mae golwg brydferth ar y dyrnogyn yn y dŵr, er na fedd dynerwch lliwiau'r eog nac ysblander lliwiau'r penhwygyn. Llwydwyrdd yw ei gefn, ei ochrau'n euraidd, a'i fol yn wyn. Pysgodyn cymharol fychan yw, eto cafwyd rhai'n pwyso naw pwys ac yn ddeng modfedd ar hugain o hyd.

3. Ceir y dyrnogyn yn holl ddyfroedd croyw Ewrob a Siberia, a cheir un math yng Nghanada. Ond nid yw'n bysgodyn môr. Ar bryfed a thrychfilod a physgod bychain y mae'n byw. Nid yw ei gig yn debyg o ran gwerth i gig eog y môr a brithyll yr afonydd.