Tudalen:Llyfr Haf.pdf/60

Gwirwyd y dudalen hon

XX

LOCUSTIAID

YCHYDIG a wyddom ni am y locustiaid difaol. Ond y maent yn ddychryn i rai gwledydd. Deuant yn llu mawr na all neb eu rhifo, yn gwmwl du rhyngoch a'r haul, disgynnant ar wlad werdd, a gadawant hi yn wlad lom, farw, heb ddeilen na glaswelltyn yn aros ynddi. Ceir llawer o'u hanes yn y Beibl. Hwy oedd i gosbi am wrthod gwrando ar Dduw: "Had lawer a ddygi allan i'r maes, ac ychydig a gesgli; oherwydd y locust a'i hysa." Yr oedd dihareb yn dweud am danynt: "Y locustiaid nid oes brenin iddynt, eto hwy a ânt allan yn dorfeydd." Gwêl Ioel elynion yr amaethwr yn dod yn rhes, a'r gwaethaf yn olaf, i ddifa popeth a adawyd, y ceiliog rhedyn, pryf y rhwd, a'r locust. Y mae darluniad tarawiadol iawn ohonynt yn dod o'r tywyllwch yn llyfr Datguddiad :

"A dull y locustiaid oedd debyg i feirch wedi eu paratoi i ryfel; ac yr oedd ar eu pennau megis coronau yn debyg i aur, a'u hwynebau fel wynebau dynion. A gwallt oedd ganddynt fel gwallt gwragedd, a'u dannedd oedd fel dannedd llewod. Ac yr oedd ganddynt lurigau fel llurigau haearn, a llais eu hadenydd oedd fel llais cerbydau llawer o feirch yn rhedeg i ryfel."