Tudalen:Llyfr Haf.pdf/62

Gwirwyd y dudalen hon

2. Ie, rhyfedd ydynt; y mae eu corff, er mor aneirif ydynt, wedi ei wneud yn berffaith at eu gwaith. Y maent fel tywysogion Ninefe, fel meirch yn carlamu i ryfel. Y mae eu chwe phâr o goesau, pedwar at gerdded a dau at neidio; eu dau bâr o adenydd, yr allanol o wyrdd, a'r mewnol o felyn a glas; eu llygaid aml; eu dannedd cryfion; eu clyw buan,—oll yn hawlio sylw. Y mae cefnder diniwed iddynt, bron yr un ffurf a hwy, yn byw yn ein gwlad ni sef ceiliog y rhedyn; cewch glywed ei sŵn yn rhwbio ei goes ôl yn erbyn ymyl ei aden yn y gwair, er mwyn gwneud miwsig i'w gymhares.

Dodwya'r locust o ddau cant i dri chant o wyau. yn y flwyddyn, a rhydd hwy yn y ddaear. Daw pryfed bach newynog allan cyn hir ac ysant bopeth o'u blaenau. Yna magant adenydd, a deuant yn ddychryn i'r gwledydd. Difânt bopeth o'u blaen, a bydd newyn ar bawb lle y buont. Dros ganrif yn ôl, disgynnodd cynifer ohonynt i'r môr fel y taflwyd ar y lan fanc dros dair troedfedd o uchter o'u cyrff meirw, a thua hanner cant o filltiroedd o hyd. Dywedir bod y drewdod afiach yn mynd gyda'r gwynt gant a hanner o filltiroedd i ffwrdd.

Nid oes modd i'w difa unwaith y cânt adenydd; difa'r wyau yw'r unig ffordd.