Tudalen:Llyfr Haf.pdf/64

Gwirwyd y dudalen hon

XXI

PRYFED TÂN

1. YR wyf yn cofio haf gwlyb anghyffredin. YR Nid oedd dichon cael y gwair yn sych. Yr oedd hanner cyntaf Awst wedi mynd, a ninnau heb gael dim gwair i ddiddosrwydd. Ryw fin nos mwyglaidd peidiodd y glaw â disgyn, a chododd a wel hyfryd o'r gogledd. Pan oedd wedi nosi, daeth y gair fod y gwair yn ddigon sych i'w drin. Ffwrdd â ni i'r weirglodd, a'n cribiniau yn ein dwylo. Wrth i mi droi'r gwair â'm cribin, beth feddyliech oedd fy syndod pan welwn y ddaear megis ar dân, gan oleuni gloyw, tan y gwair. Ofnwn, ar yr olwg gyntaf, losgi dannedd fy nghribin. Miloedd o bryfed tân oedd yno, yn chwilio am ryw fwyd yn y gwair wrth eu golau eu hunain.

2. Tua diwedd yr un mis, yr oeddwn yn mynd i fyny un o ffyrdd y cwm yn fyfyrgar, wedi nos, a'm pen i lawr. Cyn dod at drofa, codais fy mhen yn sydyn, a gwelais beth a wnaeth i mi gilio'n ôl mewn dychryn. Yr oedd pen aruthrol yn llenwi'r ffordd. Yr oedd ganddo drwyn bachog anferth. O bob ochr i'r trwyn yr oedd llygad yn fflamio tân. Fy meddwl cyntaf oedd troi fy nghefn, a dianc am fy mywyd oherwydd clywn fy ngwallt yn codi ar fy mhen. Ond yr oedd arnaf awydd gwybod beth oedd. Sylwais nad oedd yn symud dim.