Tudalen:Llyfr Haf.pdf/65

Gwirwyd y dudalen hon

Cerddais ato, yn araf, araf. O'r diwedd, gwelais nad oedd o'm blaen ond carreg ddu fawr yn taflu allan o'r gwrych yn y drofa, a dau ysmotyn o bryfed tân ar lethr y clawdd uwch ei phen. Bum yn edmygu'r ddau deulu,—teulu'r Lampyris,— a rhoddais nifer ohonynt ar gantal fy het. Arosasant yno'n ddiddig, ac wedi mynd adre, rhoddais hwy o'r neilltu, gan feddwl eu chwilio'n fanwl drannoeth. Erbyn y bore, nid oedd yno yr un ohonynt.

3. Dywedir bod dwy lain deneu o sylwedd caled gwyn dan y pryfed; y mae'r llain yn ddwbl, yr ochr allan yn felynaidd dryloyw; a'r ochr i mewn yn wen, na ellir gweled trwyddi. Medr y pryf anadlu i'r lleiniau hyn, a rhywsut, ni wyddys yn siwr sut, medr oleuo lamp i ddangos iddo ei lwybr a'i gymdeithion.

Dywed llyfrau fod llawer o bryfed tân. Y mae un pryf wrth ei filiynau ar wyneb y môr, na welir yn eglur ond trwy chwyddwydr. Weithiau, gwna i filltiroedd o fôr edrych fel pe byddai ar dân. Y mae un pryf y gellir darllen print mân yng ngolau ei bedair lusern. Hwyrach bod rhai ohonoch wedi gweld Jac y Lantar. Rhyw bryfed tân yw'r hen ffrind hwnnw. Golau tyner prydferth ydyw'r golau. Y mae gwŷr dysgedig wedi rhoi llawer o amser i astudio'r golau mewn pryfed ac mewn mater fel phosphorus. Erbyn hyn medrant roddi paent ar wyneb oriawr a'i gwna'n dryloyw yn y nos.