Tudalen:Llyfr Haf.pdf/66

Gwirwyd y dudalen hon

XXII

LLIW YN AMDDIFFYN

1.Y MAE'N ddyletswydd ar bob creadur amddiffyn ei fywyd. Dyna'i reddf ddyfnaf. Y mae gan bob un ryw fodd i'w amddiffyn ei hun,—y mae gan y llew ei balf, yr arth ei chrafanc, y march ei garn, y baedd ei ysgythrddant; ac fel y dywedai yr hybarch Michael D. Jones, gan ddal ei ddwrn o flaen cynulleidfa: "Ac y mae gan ddyn, yntau, ei forthwyl." Y mae gan ambell greadur diniwed ei amddiffynfa,— y draenog ei wisg, y crwban ei gragen.

2. Ond hwyrach mai'r prif amddiffyn yw lliw. Edrychwch ar y darlun acw. Ond craffu, chwi welwch ddau wyfyn, un ar bob cangen uwchlaw'r fforch. Eu hunig amddiffyn rhag llygaid llym adar ysglyfaethus yw tebygrwydd eu cyrff i'r goeden y maent yn gorffwys arni. Pe gwelech hwy yno, yn eu lliwiau priodol, ar ddamwain yn unig y canfyddech hwy.

A fuoch chwi'n gofyn erioed: pam y mae y gloyn byw hwn yn felyn, a hwnacw'n las, a'r llall yn gochddu ac un arall yn wyn? Y mae eu tlysni'n amddiffyn iddynt, gan ei fod yn debyg i dlysni'r blodau yr hoffant ddisgyn arnynt. A fuoch chwi erioed yn teimlo ysbrigyn o bren crin yn troi'n fyw wrth i chwi gyffwrdd ag ef? Gwyfyn oedd,