Tudalen:Llyfr Haf.pdf/72

Gwirwyd y dudalen hon

XXIV

TEULU'R GENEU GOEG

MAE'N debyg nad oes yr un teulu yn cael cymaint o gam â theulu diniwed y fadfall neu'r geneu goeg. Nid oes ond tri o'r teulu mawr hwn yn y wlad hon, sef y geneu goeg, madfall y tywod, a'r neidr ddafad.

Ar greigiau heulog y ceir y geneu goeg. Y mae'n hollol ddiniwed. Pan wêl chwi, yswatia i lawr ar y graig, ac y mae'n debyg iddi o ran lliw fel y mae'n anodd iawn ei gweld. Os tybia eich bod wedi ei gweld, ceisia ddianc yn afrosgo i ryw dwll. Os deliwch hi gerfydd ei chynffon,[1] hwyrach y tyr y gynffon yn eich llaw, a dihanga hithau tra foch chwi yn llawn syndod. Tŷf cynffon newydd yn lle yr hen. Er mor ofnus yw, y mae'n bosibl ei dofi. Yn y tywod heulog cynnes yr hoffa madfall y tywod fod. O wyau y daw ei rhai bychain hi.

2. Geneu goeg heb draed yw'r neidr ddafad. Y mae'n debyg iawn i neidr, a dyna achos ei thrallodion. Erlidir, lleddir hi'n ddidrugaredd, lle bynnag y ceir hi. Ac eto y mae'r fwyaf diniwed o holl greaduriaid Duw. Ond pwy a gred hyn wrth weld ei chorff gwyrdd yn ymrwyfo drwy'r glaswellt? "Neidr yw, lladder hi," ebe pawb. Y peth a ddylent ei wneud yw ei dal,[1] a'i chroesawu i'r ardd, oherwydd ei bwyd yw'r malwod sy'n bwyta dail ieuainc eich hoff blanhigion.

  1. 1.0 1.1 Nodwch. Mae bellach yn anghyfreithiol i drin, cyffwrdd, neu beri niwed i herpetofauna yng Nghymru a gweddill y DU. Gweler Partneriaeth Bioamrywiaeth Cymru am ychwaneg o wybodaeth