Tudalen:Llyfr Haf.pdf/76

Gwirwyd y dudalen hon

XXV

UN HYLL

1. Y MAE'N debyg bod peth ymryson rhwng y crocodeil â'r aligetor am fod y creadur hyllaf sydd yn bod. Y mae trwyn y crocodeil yn hir, a thrwyn yr aligetor yn fyr; a rhai hyll iawn yw'r ddau.

Y mae amlenni o gragen am y crocodeil; ni wna saeth oddiar fwa ond neidio'n ôl oddiarno, ac ni wna llawer bwled ond flatio fel botwm ar ei gragen. Y mae ei safn anferth yn agored, gwelir ynddi ddwy res hir o ddannedd llymion, ac y mae ei thu mewn yn goch fel gwaed. Mae rhyw edrychiad hanner llechwraidd, hanner mileinig, yn ei lygaid bychain creulon. Ac am ei gorff, llusgo'n afrosgo y mae.

Ceir y crocodeil ym mharthau poethion Affrig, ac yn yr India hefyd. Y mae crocodeil y Neil yn adnabyddus er bore'r byd, ac addolid ef gan yr hen Eifftiaid, y rhai a dybiai ei fod yn llun o'r duw oedd yn achos pob drwg. Y mae dros bymtheg troedfedd o hyd. Gwyrdd golau, gydag ambell lecyn melyn, yw lliw crocodeil yr Aifft; ond du yw crocodeil Senegal. Ceir hwy yn yr India, a Siam. Y maent yn berygl iawn pan yn newynog; ymosodant ar ddyn, a'r unig ffordd i ymachub rhagddynt yw gwthio bysedd i'w llygaid; pan wneir hynny, gollwng y safn hir ei hysglyfaeth ar unwaith.