Tudalen:Llyfr Haf.pdf/78

Gwirwyd y dudalen hon

XXVI

Y CRWBAN

1. RHAI o greaduriaid rhyfeddaf y byd yw'r crwbanod. Mae llaweroedd o fathau ohonynt, rhai yn byw ar y tir, eraill yn y llaid, eraill yn nwfr yr afonydd, ac eraill yn y môr. Y maent oll yn bedwar troediog, ac y mae eu gwaed hwy oll yn oer. Yn y gaeaf, y mae holl grwbanod y tir yn cysgu, hyd nes y daw haul y gwanwyn i'w deffro. Y peth hynotaf yw bod ganddynt wisg o gragen, a honno yn tyfu o'u hesgyrn a'u croen. Mae rhai yn fychain iawn, a gwerthir eu cregyn, wedi eu llenwi â phlwm, yn bwysau papur i rwystro i'r gwynt symud y papurau oddiar eich bwrdd. Y mae eraill yn bum troedfedd a hanner o hyd, ac yn pwyso o dri i bedwar can pwys; a gallech sefyll ar gefn eu cragen heb beri poen yn y byd iddynt. Dodwyant wyau, a rhoddant hwy yn y llaid. Pan ddaw'r crwban bach o'r gragen, bydd ganddo wisg o gragen am ei gefn, a dwyfronneg o gragen odditano. Gall y rhan fwyaf ohonynt dynnu eu pennau a'u coesau i mewn i'w cregyn; a gall rhai gau eu cragennau am danynt.

Byddant byw yn hir iawn. Medrant fyw heb fwyd am fisoedd, os nad am flynyddoedd.

2. Y mae llawer yn cadw crwban yn eu gerddi. Mae'n greadur hollol ddiniwed, ac nid oes ganddo ddant yn ei ben. O lannau'r Môr Canoldir y daw