Tudalen:Llyfr Haf.pdf/80

Gwirwyd y dudalen hon

y crwbanod a welsoch chwi'n cael eu gwerthu: o Dwrci, neu Roeg, neu Asia Leiaf, neu Balesteina.

Os oes gennych un yn yr ardd, gwyddoch lawer amdano. Bychan yw ei ben, heb lun o drwyn, ac heb glustiau i'w gweld. Ac mor ddifrif yw ei lygad llonydd! Nid oes ganddo sawdl, a cherdda'n afrosgo; ond nid yw ei symudiadau'n hyll. Mae ei gragen yn banelau, ac yn aml yn brydferth iawn.

Gwneir cribau ac addurniadau ohoni, ac y mae cragen crwban yn adnabyddus iawn i ferched fydd yn mynd i siopau.

Daw'n ddof iawn yr yr ardd, a daw i'ch adnabod yn fuan, yn enwedig os rhowch ddail wrth ei fodd yn fwyd iddo. Ond, yn bur aml, cilia, rhag plant. Y mae arno ofn iddynt ei roi ar wastad ei gefn, i weld ei ymdrechion digrif i godi ar ei draed drachefn. Y mae wrth ei fodd yn yr ardd. Crwydra wrth ei ewyllys ddydd a nos, ac ni wyddoch yn y byd pa le y deuwch ar ei draws. Ond, fel rheol, rhyw gornel sych, gysgodol, sydd wrth ei fodd. Hwyrach na welwch ef eleni eto. Y mae'n ddigon tebyg ei fod wedi mynd i ryw dwll, ac yno'n cysgu'n drwm ddydd a nos. Ond pan ddaw haul cynnes y gwanwyn i dywynnu ar y llaid neu'r dail sydd uwch ei ben, dadebra eto. A chewch ei weld, a'i goesau afrosgo a'i lygaid llonydd, yn synnu lle mae'r tatw a'r bresych a'r amryw lysiau gwyrddion oedd yn yr ardd pan aeth ef i gysgu yn yr hydref.