Tudalen:Llyfr Haf.pdf/82

Gwirwyd y dudalen hon

XXVII

CRWBAN Y MÔR

1. NID yw crwban y môr cyn hardded â chrwban y tir. Nid yw ei gragen cyn hardded, plaen a diaddurn yw ei gragen ef. Y mae ei draed yn fwy afrosgo hefyd, oherwydd y maent wedi eu gwneud at nofio; er nad ydynt yn hardd, y mae'n dda i'r crwban eu cael. Y mae ei ben yn fwy, ac yn anolygus. Medr dynnu ei wddf i'w gragen, ond ni all dynnu ei ben i mewn, na'i goesau asgellog.

Ond mae ganddo ddwy ffordd i'w amddiffyn ei hun. Yn un peth, medr frathu; ac wedi cydio, ni ollwng ei afael. Peth arall, er mor afrosgo yr edrych, medr symud yn chwim iawn ar dir a dŵr, yn enwedig yn y môr.

2. Yn y môr, ac ar lannau afonydd mawr, y mae ef yn byw. Gwna lawer o les yn y dyfroedd trwy fwyta wyau'r crocodeil ac anghenfilod tebyg, ac felly gwna gymwynas fawr i'r byd.

Ceir ef ar lannau moroedd a llynnoedd ac afonydd gwledydd poethion, yn Asia ac Affrig ac America. Bwyteir ef, a dywedir bod ei gig yn dda iawn.