Tudalen:Llyfr Haf.pdf/86

Gwirwyd y dudalen hon

XXVIII

DYCHWELIAD YR ADAR

1. MIS dychweliad yr adar a'r blodau yw mis Ebrill. Daw llawer aderyn hoff i'n gwlad yn ôl, wedi bod yn bwrw'r gaeaf ar grwydr mewn gwledydd pell.

"A glywsoch chwi'r gog?" Dyna gwestiwn plant tua dechrau mis Ebrill. A dyna ddywed y gog:

Mi gana'n ddilai trwy Ebrill a Mai,
A hanner Mehefin, gwybyddwch bob rhai.

Tybiem ni, pan yn blant, yr âi yn ôl o'n gwlad cyn gynted ag y gwelai wair wedi ei dorri. Er hyfryted y cynhaeaf gwair, yr oeddym yn teimlo, wrth weld hogi'r pladuriau, fod y gog ar gychwyn. Mor glir a pheraidd oedd deunod y gwcw! Yr oedd wedi crygu'n sicr, ac fel atal dweud arni,—gwc-gwc-gwe-cw,"— cyn diwedd ei thymor; ond ni hoffem ei cholli. Llawer buom yn craffu wrth chwilio am y deryn llwydlas. A llawer y chwiliasom am ei nyth, cyn gwybod nad yw'r gwcw'n gwneud nyth, ond ei bod yn dodwy wyau, a chogau bach drwg ynddynt, yn nythod adar eraill.

2. A dyma'r wennol yn mynd heibio fel fflach. O, yr oedd ei chroeso'n fawr. Tybiem mai hi oedd yn dod â'r haf cynnes gyda hi. Ac yr oedd ei thrydar yn fiwsig inni. Teimlem fod yr hen feudy