Tudalen:Llyfr Haf.pdf/87

Gwirwyd y dudalen hon

wedi peidio â bod yn wag pan ddaeth y gwenoliaid i wibio trwyddo, gan gofio mai ynddo yr oedd yr hen nyth.

3. Daw'r telynorion hwythau hefyd, yr adar bach swil, ac ofnus, prydferth eu gwisg a melys eu cân. Daw Telor yr Hesg i ganu ac i wneud ei nyth yn y corsydd; a'r Gwich-hedydd swil i'r dyrysni.

Daw'r pib-ganyddion hefyd, i wneud eu nythod. ar y ddaear. Gwelir Pibganydd y Coed mewn porfeydd yn ymyl llwyni coed. A gwelir Swit y Waen ar ddoldiroedd. Gwêl y gog ei nyth hi, ac yn aml dodwa ei hwyau ynddo.

Clywch gân gras y Gwddw Gwyn hefyd. Ac yn nyfnder nos, os digwyddwch ddeffro, clywch nodau aflafar Rhegen yr Yd.

Nid enwais ond ychydig. Y mae llu eraill yn dod ym misoedd y gwanwyn. Y mae eu taith wedi bod yn hir ac yn berygl. Ond y mae rhyw reddf yn eu galw'n ôl i'r hen nyth.