Tudalen:Llyfr Haf.pdf/92

Gwirwyd y dudalen hon

XXXI

ERYR Y MÔR

1. DYWEDAIS wrthych yn y bennod ddiweddaf hanes un o adar tirionaf y môr, y tro hwn wele i chwi ddarlun adar creulonaf y glannau. Ni welais i yr un erioed, ond dyma fel y darlunia y naturiaethwr enwog Audubon ef: Gellir gweld y gorthrymwr di-drugaredd hwn yn sefyll ar frig uchaf coeden, a gwylia ei lygad disglair, creulon, bopeth sy'n digwydd odditano. Gwrendy ar bob sŵn, ni fedr ewig symud heb iddo ei gweld. Mae ei gymar ar goeden yr ochr arall i'r afon, ac os bydd popeth yn ddistaw, geilw arno, fel pe'n ei annog i fod yn amyneddgar. Wrth ei chlywed, egyr yr eryr ei adenydd llydain, a gwna sŵn fel chwerthiniad un lloerig; yna saif yn berffaith lonydd fel o'r blaen, ac y mae popeth yn ddistaw drachefn.

2. A llawer hwyaden i lawr gyda'r afon, ond ni wna'r eryrod un sylw ohonynt hwy; y mae eu bryd ar aderyn ardderchocach. A thoc, clywir gwaedd alarch ar ei aden, gwaedd debyg sŵn utgorn, yn dyfod o bell. Daw ysgrech oddiwrth yr eryres, i alw sylw'r eryr at y peth sy'n dod. Ym- ysgydwa yntau, a rhydd ei blu'n daclus â'i big gam. Erbyn hyn y mae'r aderyn claerwyn yn y golwg, a'i wddf hir yn ymestyn ymhell o'i flaen. Pan fydd yr alarch yn ehedeg rhwng yr adar yr arswyda gymaint rbagddynt, ymsaetha'r eryr oddiar ei gangen gydag ysgrech ofnadwy, sy'n gyrru ias o ddychryn trwy'r alarch. Disgyn drwy'r awyr fel