Tudalen:Llyfr Haf.pdf/93

Gwirwyd y dudalen hon

seren yn syrthio, a chyrhaedda ei ysglyfaeth ofnus sydd yn awr ym mhangfeydd anobaith, ac yn ceisio troi a throsi i geisio'i arbed ei hun rhag ei grafangau. Ceisia ddisgyn i lawr at y dŵr. Ond gŵyr yr eryr y medr yr alarch suddo os medr gyrraedd y dŵr, a dianc rhag ei ergyd. Ymsaetha i lawr odditano, ac wrth weld ei grafangau, cwyd yr aderyn dychrynedig i'r awyr drachefn. Toc, y mae'r alarch yn blino, prin y medr anadlu gan ludded a braw. Yn awr tery'r eryr ef dan ei aden â'i grafane haearnaidd, a hyrddia ef i lawr ar osgo i lan yr afon. Yn awr, wedi iddo ddisgyn, gwasga ef i lawr â'i draed nerthol, a gyr ei ewinedd bachog drwy ei gnawd i'w galon. Wrth deimlo cryndod angau'n dod i gorff ei ysglyfaeth, ysgrechia'r llofrudd mewn gorfoledd a llawenydd dros yr holl fro.

Bu ei gymar yn gwylio pob symudiad. Yn awr, ehed yn llawen i lawr i lan yr afon, i gydfwynhau y pryd gwaedlyd.

3. Aderyn rhaib yw'r eryr, ac un creulon. Ond, yn y nyth yn y graig, disgwyl ei rai bach am, dano. Syllant i'r awyr las nes y gwelant eu tad neu eu mam yn dyfod o bell. A lle mae cariad y mae gwledd.

Nid oes ond ychydig wledydd heb eryrod. Ond y mae gwahanol fathau ohonynt,—eryr aur, eryr coch, eryr ymerodrol, ac eraill. Y maent oll, fel teulu, yn debyg i'w gilydd. Y mae iddynt gyrff cryfion, pennau llydain, trem falch a thrahaus, llygaid tanllyd, gwgus, adenydd hirion, crafangau fel haearn. Nid oes dim mor ddidrugaredd â'u