Tudalen:Llyfr Haf.pdf/94

Gwirwyd y dudalen hon

rhuthr ar eu hysglyfaeth; clywir ei esgyrn yn malurio yn eu hewinedd.

Mae nyth yr eryr mewn lle unig iawn bob amser. Aderyn unig yw. Rhaid iddo gael mynyddoedd iddo'i hun, a lle pell, anghyfanedd, yn gartref. Cilia o leoedd poblog; anaml iawn y daw eryr i Gymru'n awr, hyd yn oed i Eryri.

Gwna ei nyth ymysg clogwyni, ar dalp o graig. Nyth mawr, llydan a bas ydyw. Ym mis Mawrth y gwneir ef, yn sŵn y stormydd mawr olaf. Rhoddir canghennau mawr ar y graig i ddechrau. Ar y rhai hynny rhoddir canghennau llai. Yna yn uchaf rhoddir canghennau mân, a'r dail arnynt. Bydd y dail hynny, wedi sychu, yn ddigon clyd a chynnes i wely eryr bach.

Chwi synnech, wrth gofio mai'r eryr yw brenin yr adar, ei fod yn dyfod o wy mor fach. Gwyn neu lwydwyrdd yw yr wyau, gydag ysbotiau a marciau tywyllach.

Ni fydd ond rhyw un, dau neu dri o wyau yn y nyth; yn aml ni fydd ond un, heb fyth fwy na thri. Rhai newynog iawn yw'r eryrod bychain. Y mae eu rhieni yn hoff iawn ohonynt, fel y maent yn hoff o'i gilydd. Dônt a bwyd iddynt yn ei bryd. Ond bob tro y caiff yr eryrod bach fwyd, bydd ysgyfarnogod bychain heb fam, cywion rhyw aderyn arall heb neb i'w bwydo, neu ddafad heb oen. Ie, cyn hyn, aethpwyd â phlentyn bach i fyny i'r nyth.

Dywedir bod eryrod dof wedi byw i fynd dros gan mlwydd oed.