Tudalen:Llyfr Owen.pdf/40

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

"Troi yn yr un fan yr wyf o hyd, nes y mae bywyd wedi mynd yn undonog. Yr oeddwn yn meddwl heddiw mor braf y buasai arnaf pe bai gennyf ddigon o aur, a digon o ddillad gwychion, a chael bod yn ddynes fawr yng ngolwg pawb. Mor hyfryd fuasai pe bai rhywun yn dweud wrthyf y cawn unrhyw dri pheth a ddymunwn!"

3. Gydag iddi ddweud hyn, dyma oleuni sydyn yn fflachio yn y gegin, mor danbaid fel na welid y tân bach siriol o gwbl. Ac o'r goleuni daeth geneth ryfeddol o brydferth. Ac yr oedd yn amlwg mai un o'r Tylwyth Teg oedd hi.

"Cei dy ddymuniad," ebr hi mewn llais mwyn wrth Marie, " cei unrhyw dri pheth a ddymuni. Ond cymer amser i ystyried yn bwyllog. A phaid â gofyn dim nes y byddaf i wedi mynd o'r golwg, a chwithau heb weld dim goleuni ond goleuni'r tân." Ac yna diflannodd.

Yr oedd Jean wedi rhyfeddu, ac wedi deffro trwyddo, ac eb ef wrth ei wraig,—" Wel, yn awr, fy nghariad i, cymer bwyll. Gallit wneud drwg mawr i ti dy hun wrth ddewis yn ffôl. Yr oeddit yn dweud gynneu am aur a dillad a chrandrwydd. Ond pa dda fuasent i ti pe collit dy iechyd a bod mewn byd o boen? Paid â dymuno dim heno. Cymer amser i ystyried."

Yr wyt ti'n gallach na mi," ebr hithau," pan roddi dy feddwl ar waith. Ni phenderfynaf tan y bore."