Tudalen:Llyfr Owen.pdf/42

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

nac yn rhy hir nac yn rhy fachog, ond yn weddus a siapus. Ond beth am drwyn yn mynd yn glap crwn yn ei flaen!

Wrth weled ei dychryn, ebr Jean garedig:

"Paid â phoeni, f'anwylyd, mi weithiaf yn galed i ennill digon i gael trwyn aur i ti dros hwnyna."

6. Paid a bod yn wirion. Pwy âi o gwmpas mewn trwyn aur, fel pig y deryn du? Mae gen i un deisyfiad eto heb ei ofyn, ac mi ddeisyfaf hwnnw, gan gofio beth yr wyf yn ei wneud. Mi ddymunaf i'r hen wynionyn budr y felltith yma fynd i'r andros."

Ni wyddai Marie lle'r oedd yr andros, ond yr oedd yn berffaith foddlon iddo gael yr wynionyn yn aberth. Rhoddodd ei llaw ar ei thrwyn, a theimlodd ei fod fel o'r blaen. A lliniarwyd llawer ar ei theimlad wrth weled gwên foddhaus ar wyneb Jean.

Yr oedd Jean yn ddoeth, a Marie yn gariadlon. Penderfynasant yno wrth y tân nad oedd arnynt eisiau dim ond a gaent o ffrwyth eu llafur. Ac hefyd nad oedd aur na dillad gwych nac anrhydedd y byd yn ddim o'u cymharu â chwmni ei gilydd ar eu haelwyd fach, gysurus.