Tudalen:Llyfr Owen.pdf/44

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

le, gwlad heulog yw Persia. Yn y gaeaf oeraf y mae'r awyr mor glir fel y tywynna'r haul yn llachar, bron bob dydd. Ac yn yr haf, y peth olaf a welwch bob nos yw haul yn machlud mewn gogoniant annisgrifiadwy, a'r peth cyntaf a welwch yn y bore yw golau tanbaid yr haul yn eich deffro. " Y mae goleuni haul ym mhob man," ebr y genhades dyner-galon y cyfeiriais ati, "ond yng nghalonnau’r bobl."

2. Ond, ar droeon anaml, daw llen dros yr haul, a bydd Persia yn ferw drwyddi draw wedi colli y goleuni y mae beunydd yn byw ynddo. Un peth ydyw diffyg ar yr haul. Y mae diffyg ar yr haul yn ein gwlad ni yn beth eithaf annaearol, a rhyw brudd-der yn ymledaenu bob amser. Ond gwyddom ni beth yw'r achos,—y lleuad sydd yn mynd rhwng y ddaear a'r haul, ac ni bydd yn hir yn myned heibio. Ym Mhersia y mae ganddynt hen goel ofer bod pysgodyn mawr yn ceisio llyncu'r haul. Ac ar unwaith daw pawb allan i wneud y sŵn mwyaf a fedr i ddychrynu'r pysgodyn,—tanio cyflegrau, saethu â gynnau, curo hen bedyll efydd ac alcan. A phan fydd golau'r haul yn cryfhau, bydd yno lawenydd mawr bod y pysgodyn drwg wedi ei ddychrynu oddiwrth yr haul pan ar ganol ei lyncu.

Dro arall, tywylla wyneb yr haul yn sydyn. Ac oni chaewch bob drws a ffenestr a rhigol ar unwaith, dechreua tywod ariannaidd lifo i mewn fel dwfr, a gorchuddio popeth. Ystorm dywod sydd