Tudalen:Llyfr Owen.pdf/45

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

wedi torri dros y wlad. Chwythir tywod yr anialwch gan y trowynt, nes cuddio wyneb yr haul, nes mygu pawb sydd heb gysgod rhagddo, a pheri anghysur mawr hyd yn oed mewn tai.

Unwaith eto, daw cwmwl tywyll, symudol. weithiau rhwng y ddaear a'r haul, gan guddio ei wyneb hawddgar bron. Cwmwl o locustiaid yw. Os disgynnant ar gaeau, cerddant ymlaen fel ton o'r môr, yn llu aneirif, a difant bob deilen, gan droi'r caeau ffrwythlon yn ddiffeithwch llwm. Os disgynnant ar y tywod, trengant, a defnyddir eu cyrff' fel gwrtaith.

3. Ond anaml y cymylir haul Persia. Y mae'n debyg na hoffai rhai sydd wedi arfer â chymylau Cymru fyw dan haul disglair Persia o hyd. Gwn am un gŵr enwog, a fu mewn gwlad debyg iddi na allai ddymuno dymuniad Ann Griffiths mwy :

"Byw heb gwmwl, byw heb boen."