Tudalen:Llyfr Owen.pdf/60

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

"Rhedwch at y caban acw, lle y gwelwch y mwg," ebr y brawd hynaf, " y mae acw swynwr a all ein hachub." Ac yno yr aethant i erfyn am nodded.

"Ewch ymlaen," ebry swynwr, "mi a'i lladdaf." Ac fe'i gwnaeth ei hun fel cawr, gyda phicell fel coeden. Diangasant hwythau, ond cyn hir gwelent yr arth yn cyflymu ar eu hôl, a gwaed y swynwr ar ei safn.

Y mae swynwr arall draw acw,"ebr y brawd hynaf. "Rhedwch am eich bywyd, y mae'r arth wedi ei chlwyfo, ac yn ffyrnig." A rhedodd y brodyr heinif fel ceirw. Addawodd y swynwr ladd yr arth.

Gwnaeth yntau ef ei hun yn gawr o faint, a chododd bastwn aruthrol, a tharawodd yr arth yn ei phen nes ei syfrdanu. Ond dadebrodd toc, a rheibiodd y swynwr. Ac er eu dychryn gwelai'r brodyr hi yn prysuro ar eu hôl. A gwaeddai'r brawd hynaf:

Y mae un gobaith eto, yr olaf. A welwch chwi'r caban acw ar fin y goedwig? Y mae brawd a chwaer yn byw acw, gwelais hwy yn fy mreuddwyd. Ef yw swynwr mwyaf y wlad."

3. Dadebrodd y pen, a dywedodd wrth ei chwaer : " Y mae deuddeg o wŷr ieuainc yn dod, ac arth ar eu hôl. Dos a dal fì o flaen yr arth." Erbyn hyn yr oedd yn galed ar y gwŷr ieuainc, a'r arth bron wrth eu sodlau. Rhedodd yr eneth, a daliodd y pen i fyny. Pan welodd yr arth y