Tudalen:Llyfr Owen.pdf/66

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

XVII

Y FÔR-FORWYN FACH

1. TYNNAIS ysgwrs unwaith â nifer o fechgyn nwyfus. Yr oeddynt yn chwarae yn brysur, ond medrais dyn eu sylw, a dechreuais siarad â hwy fel hyn:

"Yr ydych yn hoff iawn o chwarae ar fin nos?"

"Ydym, y mae'n well gennym chwarae na dim."

"Ond rhaid i chwi fod y rhan fwyaf o'ch amser. yn yr ysgol?"

"Rhaid, ni wiw i ni beido i mynd yno."

Ac ni byddwch yn blant da bob amser?"

"Ni fyddwn, a chiawn ein cosbi'n aml."

Ac ni byddwch fyw byth. Y mae rhai plant yn byw i fod yn gant oed, a rhai yn drigain, a rhai yn hanner cant; on y mae rhai yn marw'n blant fel chwi?"

"Oes," ebr y plant yn dwys i distaw.

"Wel, y mae gennyf gynnig i'w ni chwi,—ar un amod. Cewch chwarae o olau i olau. Ni raid i chwi fynd i'r ysgol. Cewch wneud y drwg a fynnoch, ac ni chaiff neb eich cosbi. Cewch chwarae. ar y ddaear neu ar waelod y môr, ac y mae pethau rhyfedd a phrydferth iawn yno. A chewch fyw am dri chan mlynedd."

"Beth yw'r amod?"

"Eich bod yn marw wedyn am byth yn darford fel ewyn a yrrir oddiar y dŵr gan y gwynt, Ni bydd