Tudalen:Llyfr y Tri Aderyn.pdf/14

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

yn y De, ac y bu i'r wreichionen a ddisgynodd i'w yspryd gael ei gwneuthur yn fflam yno; ac yr oedd hyn yn beth mor newydd fel y rhoddwyd arno ef yr enw "Morgan Llwyd o Wynedd," a gallwn oddiar hyn edrych arno ef fel pioneer Efengylwyr Ymneillduol Gwynedd. Yr ydym o'r farn mai yn deithiol yr efengylai am y rhan fwyaf o'i oes gyhoeddus. Ni allwn gysylltu amseriad â braidd un digwyddiad yn ei hanes o 1633 hyd 1659. Tybir iddo ddechreu ar Wynedd fel maes ei lafur ychydig cyn toriad allan y rhyfel cartrefol rhwng Charles a'r Senedd, pan oedd yr Archesgob Laud yn anterth ei rwysg a'i dra-arglwyddiaeth. Yr oedd yr Annghydffurwyr yn cael eu herlid yn greulon gan bleidwyr y Brenin. Pan yr oedd Morgan Llwyd tuag 20ain oed, addefir fod Protestaniaeth y deyrnas, a'i rhyddid gwladol, yn y perygl mwyaf. Yr oedd yr ymdrech rhwng y Brenin a'r Senedd yn ymdrech rhwng gormes a rhyddid, rhwng Protestaniaeth a Phabyddiaeth. Yr oedd Cymru yn lle peryglus i Annghydffurfiwr i deithio trwyddi i bregethu. Gan y cymerai y Cymry eu harwain gan yr offeiriaid a'r uchelwyr, heb fod ganddynt y fantais oedd gan y Saeson i ddeall y ddwy ochr trwy y papurau a'r llyfrynau a ledaenid, safasant yn fwy pleidiol i'r Brenin a'i blaid nag odid i ran o'r deyrnas. Ac wedi i'r rhyfel dori allan yr oedd mor beryglus, fel y ciliai yr efengylwyr mewn ofn i Loegr, i lechu yno hyd nes yr elai y ddrychin heibio. Cawn Morgan Llwyd yn eu mysg ar un adeg os nad ar fwy nag un, am y rheswm yma; ond nid oedd hyny, yn ddiau, yn peri iddo fod yn segur. Mewn llythyr at ei fam dyddiedig Awst 24, ond heb y flwyddyn, a ysgrifenodd o Gaerloyw (Gloucester), y mae yn dweyd:

"Fy anwyl anrhydeddus fam,

"Ni che's i odfa (er pan ddaethum i o Gymru) ysgrifennu ond ychydig at neb, am fod yr hela diweddaf yma mor brysur, a'm cyn-