Tudalen:Llyfr y Tri Aderyn.pdf/15

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

llwyn mor wastad, na che's amser; mae'n hir genyf eisiau clywed pa'r un a wnaeth y gelyn ai dyfod i Gymru ai peidio. Os daeth ef, ni [a] wyddom waethaf dyn sydd â'i anadl yn ei ffroenau, Esay li. 12, 13. Mae'n rhaid iddynt gael tippyn o rwysg cyn marw, am nad ydynt hwy etto ddigon uchel i gwympo, na ninnau'n ddigon isel i godi, ond cyn diwedd y cynhauaf yng Nghymru, medd gwr i Dduw, fe'u delir hwynt yn y fagl. Ni [a] fuom mewn peryglon, ond mae Duw o'i ras yn ein cadw, ac yr ydym ni yn iach, a'n hyfrydwch sydd yn yr Arglwydd. Na fyddwch drist o'n plegid ni, canys mae llawenydd mawr yn agos. Er gwaetha dynion a chythreuliaid, fe geidw Duw ei air a'i blant. Mari a ddewisodd y rhan oreu; na ellir ei ddwyn oddiarni. Mae'n hir gennyf glywed pa fodd y mae fy ngwraig a'm teulu, a'r rhai a'n câr. 'Rwyf fi yn tybied cyn y b'o hir y dychwelaf; felly mi'ch gorchymynaf i'r Arglwydd. Eich ufudd fab, MORGAN LI.WYD."[1]

Dylem ddal mewn côf nad oedd y Senedd yn cymeryd rhan yn yr erledigaeth, ond yn y gwrthwyneb, wedi gorchymyn i weinidogion uniongred i fyned i Gymru i bregethu lle bynag y byddai angen; ac ar anfoniad deiseb oddiwrth y cyfryw, trwy law Cradoc, trefnwyd fod y rhai y cwynid yn eu herbyn i ymddangos gerbron y pwyllgor.[2] Y flwyddyn ganlynol (1642) y torodd y rhyfel allan, ac y gorfuwyd i'r gweinidogion teithiol a anfonwyd gan y Senedd ffoi o Gymru, hyd nes yr adferwyd heddwch am dymhor yn 1646, pan y dychwelasant eilwaith at eu gwaith. Ond ni pharhaodd y tawelwch ond am ddwy flynedd, a gwnaeth Powell, ac eraill, ddefnydd da o'r ychydig seibiant hwn. Yn 1649, gorchfygwyd a dienyddiwyd y brenin.

Yr un flwyddyn pasiodd y Senedd y Weithred er lledaenu yr Efengyl yn Nghymru. Gosodwyd Dirprwywyr i edrych i sefyllfa yr Eglwysi gydag awdurdod i ddiswyddo offeiriaid anfucheddol, esgeulus, gwrthwynebol, ac annghymhwys i'w swydd, ac i lanw eu lle âg eraill oedd yn fwy cymhwys. Yr oedd Morgan Llwyd yn un o'r dirprwywyr dros Ogledd Cymru. Trowyd llawer o offeiriaid o'u

  1. Cylchgrawn Cynmraeg, 261, 262.
  2. Walker's Sufferings of the Clergy, part i., 147; Rees' Hist. of Noncon., &c., 70, 71.