Tudalen:Llyfr y Tri Aderyn.pdf/21

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

8. "Can Anghyhoeddedig o waith Morgan Llwyd o Wynedd; ynghyda Byr Nodiadau ar ei Fywyd a'i Weithiau, gan y Parch. J. Peter, Bala." (Bala, H. Evans), 1875.[1] (Ychydig o gopïau a argraffwyd, at wasanaeth cyfeillion).

9. "A Dialogue between Martha and Lazarus about his Soul."[2]

Yn un llyfr, gydag un wyneb-ddalen, yr ymddangosodd argraffiad 1765 o rhif 4, 5, 6, a 7; cynwys vi.+160+ii. o dudalenau; golygwyd ef gan "Ifan Thomas, Argraphydd." Ni wyddom ai felly y cyhoeddwyd hwy yn flaenorol. Dilynasom Lyfryddiaeth y Cymry am yr argraffiadau na welsom. Cynwys y rhestr hon yr oll, hyd y gwyddom ni, o ysgrifeniadau argraffedig Morgan Llwyd, gyda'r eithriad o ychydig o'i lythyrau a argraffwyd trwy wahanol gyfryngau o bryd i bryd.

Nis gallwn ddweyd dim am rhif 2 a 9, gan na welsom hwy. Ond gwelsom yr oll o'r gweithiau eraill. Dywedir ar y wyneb-ddalen mai cyfieithiad ydyw rhif 4; ond ni hysbysir o waith pwy. Credwn yr un modd am rhif 5 a 6; ac nad ydyw rhif 7 ond syniadau a geir yn 4, 5, a 6, gydag ychwanegiad o'r un ffynonell, wedi eu rhoddi mewn mydr. Tueddir ni hefyd i dybied yr un modd, ond nid mor sicr, am rhif 3; y mae yn debycach na'r lleill a nodwyd o fod yn waith gwreiddiol Morgan Llwyd; o leiaf ymddengys y meddyliau yn fwy "meddyliedig" ac addfed, gan nad pa un ai cyfieithiedig ai gwreiddiol ydynt; ac y mae mwy o arddull y Cymro hyawdl arnynt, ac arwyddion eu bod wedi bod yn hwy yn mold awdwr Llyfr y Tri Aderyn. Arweinir ni, felly, i gredu nad oes yr un o'r ysgrifeniadau a briodolir i Morgan Llwyd yn hollol wreiddiol, ond rhif I yn unig; eto fod eu detholiad a'u cyfaddasiad at amgylchiadau y Cymry yr ewyllysiai eu gwasan-

  1. Gwelir y gân yn gyflawn yn Y Traethodydd am 1876, 406-410.
  2. Baxter's Catholic Communion Doubly Defended, 36-yn ol Rees, 125.