Tudalen:Llyfr y Tri Aderyn.pdf/22

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

aethu yn y modd yma, yn nghyda'r Gymraeg gref, a'r arddull bur, a geir yn y rhan fwyaf ohonynt, yn gyfryw na allasai ond un o athrylith Morgan. Llwyd eu rhoddi i ni. Nis gallwn fod yn benderfynol ar hyn, am nad ydym yn ddigon cydnabyddus a'r maes y tybir y bu efe yn medi ynddo. Y mae y diweddar Dr. Edwards yn cyfrif "Jacob Behmen y mwyaf cyfriniol, ond odid, o'r holl ysgrifenwyr...... Y mae gradd o hyn i'w weled yn Christmas Evans, a mwy efallai yn Morgan Llwyd; ond nid cymaint yn neb a'r rhagddywededig Jacob Behmen."[1] Oddiwrth gyfeiriadau a wna amryw at yr awdwr hwn, a'r ychydig ddyfyniadau a roddir yn ei eiriau ef ei hun, yn nghyda'r crynodeb a roddir o'i gyfundraeth a'i olygiadau, a'r eglurhad a roddir arnynt, credwn, er wedi methu cael ei weithiau ef ei hun i'w chwilio, mai gweithiau y Jacob Behmen, neu Böhme, hwn, brodor o Görlitz yn yr Almaen, oedd y ffynonell y tynodd Morgan Llwyd lawer o'r dwfr a fwriadai i adfywio a disychedu ei gydwladwyr.[2] Ganwyd ef 1575, a bu farw 1624. Yr oedd llawer o astudio ar ei lyfrau yn Lloegr yn amser Morgan Llwyd; yr oedd ei holl weithiau wedi eu cyfieithu i'r Saesoneg rhwng 1644 a 1662; ac yr oedd y brenin Charles y Cyntaf yn edmygydd mawr ohonynt; a thebygol iawn fod ysgolhaig o fath Morgan Llwyd wedi ymgydnabyddu â hwy mor drwyadl fel y gallai gyflwyno i'r Cymry yn ei briod-ddull ei hun ddetholiad o gymaint ohonynt ag oedd yn dderbyniol ganddo ef, ac y barnai a wnai les iddynt hwy.

Ond gan nad beth am ei lyfrau eraill, credwn yn ddibetrus mai cynyrch athrylith gref a dychymyg ffrwythlon Morgan Llwyd ei hun yn hollol ydyw

  1. Traethodydd, iv. 34; Traethodau Llenyddol, 137, 138.
  2. Gwel Vaughan's, Hours with the Mystics, book viii. chap. 6-8; a Martensen's Jacob Boehme, his Life and Teaching; or Studies in Theosophy, 1885.