Llyfr y Tri Aderyn, yr hwn yn deilwng a gyfrifir y gwerthfawrocaf a'r pwysicaf o'i holl ysgrifenaidau. Hwyrach y gwelir yma hefyd ryw led-arwydd o'i fod yn ei ysgrifenu yn yspryd y Theosophydd, a bod ambell i frawddeg ynddo yn sawru o rai o'r ysgrifeniadau cyfriniol; ond yn yr arddull yn fwy nag yn y meddyliau y gwelir hyny. Y mae yr arddull hon yn gweddu i'r ffurf allegawl y dewisodd efe ei dilyn yn y llyfr, ac i'r hoffder o ysprydoli elfenau anian a helyntion amser yr oedd ganddo y fath allu i'w gyflawni. Dammeg yw y llyfr drwyddo; ond dammeg sydd yn cynwys portread o hanes yr amseroedd, addysgiadau gwerthfawr, rhybuddion difrifol, a gwirioneddau ac egwyddorion o'r fath fwyaf pwysig, a'r oll yn cael eu cyfleu mewn dull y mae yn anhawdd i neb beidio eu derbyn, unwaith y cymero y drafferth i dori y plisgyn fel ag i brofi y cnewyllyn sydd oddi mewn iddo. Nis gallai ddethol tri mwy cymhwys o holl adar y nefoedd na'r Eryr, y Golomen, a'r Gigfran, i osod allan Cromwell a'i ddidueddrwydd teg; y Diwygwyr Puritanaidd ac Annghydffurfiol, eu hegwyddorion a'u hysbryd, yn mha oes bynag; a'r Eglwys Sefydledig, fel yr oedd Laud a'i greaduriaid wedi ei darostwng, yn ei rhagfarn, ei llygredigaeth, a'i hysbryd creulon ac erlidgar. Llwydda i beri i bob aderyn gadw at ei lais a'i anianawd ei hun yn ddiwyro trwy yr ymddiddan i gyd. Cwyna rhai ei fod yn ysbrydoli y Diluw, Noah, a'r Arch, i raddol eithafol; a theimlwn ei fod yn ein harwain, weithiau, i ddyfnderoedd ein naturiaeth ein hunain, nes yr ydym yn ymgolli ynddynt; a phryd arall i uchelderau dirgelion naturiaeth yr Anfeidrol nes yr ydym wedi ein dallu gan y disgleirdeb; ond wrth aros gydag ef am enyd, teimlwn ein bod yn graddol dd'od atom ein hunain. Dyry oleu clir i ni ar sefyllfa y wlad yn yr adeg hono; ar yr ymdrech a
Tudalen:Llyfr y Tri Aderyn.pdf/23
Prawfddarllenwyd y dudalen hon