gymerai le rhwng rhyddid a chaethiwed; rhwng cyfiawnder a gormes; rhwng purdeb a llygredigaeth, mewn cred a buchedd; rhwng goleuni a thywyllwch. Atebir ynddo lawer o gwestiynau dyfnion ac anhawdd, a dattodir ambell i gwlwm. dyrys; a chredwn na cheir mewn odid i awdwr gymaint o synwyr wedi ei wasgu i mor lleied o eiriau, yn neillduol felly mewn rhai adranau; weithiau ceir adran lawn o frawddegau byrion, ond tra chynwysfawr, yn ail i'r hen ddiarhebion y mae yn eu hadrodd, sydd fel llinynaid o berlau yn disgleirio yn eu goleuni eu hunain. Profa ei hun yn Ysgrythyrwr dihafal, ac, o ganlyniad, yn Dduwinydd da; yn athronydd o dreiddgarwch dwfn; yn sylwedydd craff ar natur, yr hon a ddyry efe dan dreth yn hollol i'w amcan ei hun; ac yn efengylydd gwresog sydd yn medru ei ffordd at galonau dynion, ac yn cysegru ei fywyd i'r amcan hwnw. Nid oes genym yr un o'i bregethau; ond tybiwn ein bod yn cael eu hadsain o big y Golomen ambell i waith; dychymygwn weithiau ein bod yn gwrandaw arno; yn awr oddiar gopa mynydd Ebal yn cyhoeddi y felldith a'r gwae, uwchben cynulliad o Gymry mewn ysgubor, neu ar ben yr heol ar ddydd marchnad neu ffair, nes y gwelir wynebau yn gwelwi gan y difrifwch a'r awch sydd yn ei hyawdledd miniog; a'r funyd nesaf oddiar gopa Gerizim, yn cyhoeddi gwynfyd a bendith i'r pechadur a gredo, nes y cynyrcha lawenydd a gorfoledd; a'r dyrfa o'i flaen yn crogi wrth ei wefusau; pryd y mae rhyw drydan dwyfol, byw, yn treiddio trwy yr oll pan yn gwrandaw, yn yr iaith yn yr hon y'u ganed, fawrion weithredoedd Duw. Ceir yno, nid y golud a gynygir, a'r nerth a deimlir, yn unig, ond hefyd ryw "odidowgrwydd ymadrodd" na chlywsent ei gyffelyb. Yr oedd yn arglwydd llwyr ar drysorau yr hen iaith Gymraeg, yn ei phriod-ddull ac yn ei
Tudalen:Llyfr y Tri Aderyn.pdf/24
Prawfddarllenwyd y dudalen hon