Tudalen:Llyfr y Tri Aderyn.pdf/26

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

o'r Crynwyr—yr eithaf arall. Ymddengys oddiwrth Ddyddlyfr George Fox, a'r cyfeiriadau sydd yno ato, "fod ynddo radd o duedd unwaith at rai o ddaliadau y Crynwyr; yr hyn allesid ei ragdybied oddiwrth ei fynych grybwylliad yn ei holl ysgrifeniadau am y goleuni tufewnol sydd yn mhob dyn. Ymddengys iddo fyned i ymweled â George Fox, ond iddynt fethu dyfod i gydwelediad."[1] Gwnawn un dyfyniad eto o un o'i lythyrau annyddiedig at ei fam, sydd yn taflu goleu ar y dull a gymerai i ffurfio ei gredo, nid yn ei berthynas â'r Crynwyr yn unig, ond hefyd âg Arminiaeth a Chalfiniaeth, a'i syniadau ar lawer o athrawiaethau crefydd:

Ymofyn yn eich llythyr yr ydych ynghylch y Crynwyr; (y rhai a elwir felly) mi a safaf ar fy nisgwylfa, Heb. [Hab.]ii. 1, 2., ac wedi sefyll ennyd, fy ngwaith i yno fydd, dysgu a dilyn daioni pob un, a gwrthod drygioni pob math; ymresymmu â phawb a ddel attaf, heb gythrwfl, yn ymwrando beth a ddywed yr Arglwydd wrthyf, a'i wyneb i gydseinio a'r gydwybod oddi fewn. Lle y b'o cythrwfl y mae llwgr yn y meddwl; mae arnoch chwithau yna hefyd eisiau deffroad, a nithiad, a dinoethiad eich proffes yn amlycach. Ond pan fo'r gwynt garw yn chwythu, gadewch i ûs y meddyliau fyned gydag ef. Gwir y maent hwy yn ei ddywedyd, ond nid yr holl wir; ac ni a wyddom y rhaid wrth ddwfr cystal a thân ysbrydol. Prynwn yr amser; ymwrandewch â Duw yn unig o ddifrif, nid o chwareu yn hannerog, fel y mae'r rhan fwyaf. 'Rwyf fi yn credu y siglir rhai lawer mwy nag etto (fel y dywedais yna wrth rai na chlywsent ymlaenllaw y pryd diweddaf)..............'Rwy'n danfon i chwi lyfr i'w gyffelybu â'r llyfr oddi fewn. Ar frys â'm hannerchion attoch, ac at ein chwiorydd a'n ffryns.[2] Os bydd dim a fynno neb o honoch â'm fi, danfonwch ar frys, rhag i mi fod heb glywed oddiwrthych, neu gael fy ngalw oddiyma i ryw le arall. Byddwch sobr, byddwch effro; diwyd hyd y gwyddoch, a doeth i wrthwynebu creulondeb trwy fwyneidd-dra."[3]

Onid oedd yn rheol dda a doeth?

Nid ydym wedi nodi engreifftiau, na dyfynu dim o Lyfr y Tri Aderyn, gan gredu y bydd i'r darllenydd weled drosto ei hun y gwahanol ranau sydd

  1. Traethodau Llenyddol, Dr. Edwards, 152 (Ol-ysgrif)
  2. Mewn llythyr arall y mae yn enwi ei "chwaer Dorothy," a'i "chwaer Elizabeth."
  3. Cylchgrawn Cynmraeg, 1794, 261.