Tudalen:Llyfr y Tri Aderyn.pdf/32

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

drigo. Ond ni fynnit mo'th alw wrth henw dy wlad, na'th farnu yn ôl dy waith.

Cigf. Ni fynnai o'm bodd mo'm galw felly.

Er. Gwêl, ac edrych ar y golomen ymma, nid gwaeth ganthi hi pa fodd y gelwir hi, canys mwyn ac arafaidd yw.

Cigf. Nid colomen wyfi, ond Cigfran. Ac fo ordeiniwyd i bob aderyn ei liw ai lûn ai lais ei hun; ac os gofynni di i mi, Pam? Minnau a ofynnaf i tithau, O Eryr, Pam nad wyti cyn lleied ar dryw bâch, neu'r wenfol.

Er. Ond gwrando, Gigfran, pa newydd yr wyti yn i ddwyn ar ôl dy holl hedeg dros y gwledydd?

Cigf. Rwi'n gweled mai gwych yw bod yn gyfrwys pa le bynnag y bwyf.

Col. Nid yw dy gyfrwystra di ond ffolineb, canys ni fedri ac ni fynni ddyfod yn ol at Noah.

Cigf. Gwêl, O! Eryr frenin, fel y mae'r Golomen o'th flaen di yn fy marnu i.

Col. Nid wyfi ond dywedyd y gwir am danat ti, ac fe fyn y gwir o'r diwedd ei le.

Er. Ond dangos di, O! aderyn du, i'th gyfiawnhau dy hun, Pa gyfrwystra sydd ynoti mwy nag mewn aderyn arall ?

Cigf. Mi fedraf droi gyda phob gwynt, ac arogli fy mwyd o bell, a gochelyd y saethyddion. Ni ddescynnaf yn agos i neb heb fy llygad yn fy mhen. Pa opiniwn bynnag a fo gan yr uchelwyr, mi fedraf i lyngcu, am y caffwyf lonyddwch yn fy nyth.

Er. Oni fedr y Golomen hynny hefyd?

Cigf. Crawcc. Mae rhai o'r proffeswyr newyddion ymma mor wangcus a minnau, ac mor gyfrwys am y byd ar gigfran dduaf. Ond os troi'r ddalen a darllain y tu arall i'r gwir, mae llawer o'r dynion newyddion ymma heb ganddynt bris am y byd, nag am danynt eu hunain, nag am ddim, am y caffont fod gyda Noah yn yr Arch, mewn cymdeithas yn yspryd yr ail Adda; ac ni adwaen i yr un o honom ni, y Cigfrain, o'r meddwl hwnnw.

Col. Gwir y mae'r Gigfran yn i ddywedyd yn hyn, canys mae llawer a lliw colomennod arnynt, a natur-