Tudalen:Llyfr y Tri Aderyn.pdf/33

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

iaeth y gigfran ormod ynddynt.[1]

Er. Ond gwrando di, Gigfran gyfrwys, onid oes ewyllys rydd gennit? Oni elli, os mynni, beidio a lladd yr ŵyn bach, a chymmeryd rhyw ffordd arall i fyw?

Cigf. Ped fai ewyllys fe fyddai allu. Ped fai'r gwaethaf yn gallel iawn ewyllysio bod yn orau, fe fynnai fod felly. Ond mae ewyllys pawb wedi i garcharu yn ei naturiaeth ei hun.

Er. Ond, oni elli di ddyfod allan o'th ewyllys, a'th wadu dy hun?

Cigf. Na allaf. Trech yw naturiaeth na dim, ac ni welaf i fawr yn nofio yn erbyn y ffrwd honno. Ie, ni all neb i gwrthwynebu yn hir ond y sawl sydd a naturiaeth newydd ganddo.

Er. Ond, beth yw'r ewyllys i'r naturiaeth ?

Cigf. Mae'r ewyllys yn y creadur fel y ffrwyn i'r march, neu lyw i'r llong, neu arglwydd mewn gwlad. Ac os bydd yr ewyllys yn ddrwg, mae pob pluen o'r aderyn hwnnw yn ddrwg hefyd.

Er. Da yr wyti yn dywedyd dy reswm, ond drwg yr wyti yn gwneuthur. Pa le y cefaisti y synwyr ymma i ymresymmu fel hyn ?

Cigf. Ymha le y cawn i hi, ond yn yscolion y deyrnas? Ond yn aderyn du yr aethym i i'r yscol, ac yn gigfran ddu fel y gweli di y daethym i adref.

Er. Wrth hyny, ni buase waeth i ti aros gartref.

Cigf. O, ni fynnaswn i er dim aros gartref: canys mi a ynnillais gallineb i dwyllo'r adar, a phei rhoiti gennad, O! Eryr, mi a'th dwyllwn dithau, fel y siommodd y Phariseaid Bontius Pilat. Ond craff yw dy lygad ti, a rhaid tewi.

Er. Ond a welaisti mo'r colomennod yn yr yscolion llei buost di?

Cig. Yr oedd ymbell un. Ond ni fedrwn i ddarllain moi hiaith nhwy, na nhwythau ddeall mo'm meddyliau innau. Ond pam yr wyt, O! Eryr, yn taro gyda'r golomen o'm blaen i?

Er. Mae Noah yn i hoffi hi yn fwy na'th di.

  1. Tit. i. 16.