Tudalen:Llyfr y Tri Aderyn.pdf/34

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Cigf. Er hynny, cofia mai er i'r golomen gyntaf a'r ail ddyfod i'r Arch eilwaith, ni ddaeth y drydedd i ymorol am dano mwy.

Er. Fe alle mai Anghrist oedd honno yn rhith colomen; neu fe alle fod y byd yn rhydd iddo ar ôl darfod cyfryngdod a gweinidogaeth yr Arch.

Cigf. Ond fel y waethaf y mae nhwy i gyd bes gwyddit.

Er. Nage. Onid y nhwy yw'r adar gwirion, hawddgar, cyflym, cwynfannus, diniwed; ac mae yn y gwledydd bobl o'r fath honno, er dy fod ti yn crowccian yn i herbyn gwell a fyddai i ti aros gyda ni yn ddiniwed. Fe ŵyr Noah mai aderyn drwg wyti; ac mae ei fwa ef yn cyrhaeddyd o entrych y ffurfafen i waelod y ddaiar, a'i saeth ar y llinyn yn erbyn pob aderyn drwg sydd wedi i adel ef heb ddychwelyd atto.

Cigf. Mi ddywedais ddwy waith o'r blaen i ti, na allai newid mo'm naturiaeth mwy na'm lliw: mae gennif lawer chwedl iw ddywedyd, bei cawn i gennad, a chroeso.

Er. Pam na ddywedi di dy feddwl yn hyf, a minnau yn rhoi cennad i ti?

Cigf. Ond synhwyrol yw'r neb a ddywedo mewn damhegion; a brenin wyti yr awron. Ac os dywedaf ddim yn erbyn dy feddwl di, di a'm anrheithi.

Er. Na wnaf ddim. Fe ddyle rheolwyr roi cennad i bawb i ddywedyd i meddwl. Dywaid yn hŷf, ac mi a'th wrandawaf.

Cigf. Ond mae'n beryglus dywedyd y gwir yr awron; mae milwyr a chynghorwyr yn spio am danom, i'n dal, ac i'n difetha.

Er. Nage. Drwy na ddywedych ond y gwir sydd ynot mewn heddwch, di gei dy wrando.

Cigf. Na wrando ar y golomen, ni fedr hi ond rhyw duchan oferedd: wedi'r cwbl, meddaf fi, melys yw bwytta o chwant y cnawd, tra barhatho. A gwych gennif (bes gallwn) ddifa yr holl rai bach wedi i newydd aileni, a dychrynnu y lleill am llais garw gwrol.

Er. Drwg yw creulondeb y llais garw. Oni wyddost ti mai gwell bodd pawb, nai anfodd? Dysg y