Tudalen:Llyfr y Tri Aderyn.pdf/37

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

weled beth a ddywaid hi yn hynny.

Cigf. Cigfran anhappus wyfi: roedd fy henafiaid i yn cael llonydd, a'r eryrod a'r rheolwyr gynt yn cymmeryd ei hesmwythdra, ac yr awron yr wyti yn fwy dy reswm, ac yn llai dy nerth na'r tywysogion o'r blaen.

Er. Digon yw hynny o weiniaeth a chyfrwystra; yr oedditi gynne yn son am heresiau dinystriol sydd ymhlith y colomennod, henwa un o'r heresiau hynny, ac mi ai hystyriaf, ac onide mi, &c., &c.

Cigf. Mae nhwy yn dàl'nad oes ond un brenin, ac yn dywedyd i fod ef ymhob lle ac heb i gynnwys yn unlle. Nid adwaen i mor brenin hwnnw. Ac mae nhwy ar fedr dy wrthod tithau, O Eryr, i fod yn swyddog arnynt; ac am hynny fy nghyngor i yw i ti mewn pryd edrych yn dy gylch.

Er. Nid rhaid i mi ofni mor colomennod gwirion, ni wna nhwy ddim ond a fynno Noah, yr hwn er ei fod ef yn aros yn gorphorol yn yr Arch, mae ei arglwyddiaeth ef dros yr holl fyd.

Cigf. Ond mae nhwy yn dal mai nhwy yw'r bobl buraf: oni chlywaist ti'r golomen gynneu yn i chanmol ei hunan?

Er. Mae hi yn llawer hawddgarach na'th di. Ac rwi'n cofio i'r dynion diniwed gynt ddywedyd i bod nhwy yn blant yr Arch, a bod yr holl fyd yn gorwedd mewn drygioni, a bod ganddynt hwy sêl ddirgel, nad edwyn neb ond nhwy i hunain.

Cigf. Ond nid opiniwn dyn am dano ei hun a all ei achub heb weithredoedd da.

Er. Mi wn nad yw'r golomen yn barnu mor yscuthanod, a llawer math arall o adar; ond am yr adar drwg, mae ei gweithredoedd ei hunain yn i barnu.

Cigf. Ond pa le y mae ei gweithredoedd da nhwy, ar ol ei holl duchan ai trydar ?

Er. Oni allant wneuthur y daioni a fynnent, ni wnant niwed i neb. Ond dydi, gan na fynni wneuthur da, di a fedri ac a fynni wneuthur drwg.

Cigf. Ond niwed iddynt hwy hedeg i gaeau ei cymydogion, a difetha ei hadyd, wrth i barnu i uffern, fel pe baent oll yn golledig.