Tudalen:Llyfr y Tri Aderyn.pdf/40

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

dywedyd yn dêg, yn ceisio gwneuthur y daioni i bawb, ag nyni a ewyllysiem bei gallem wneuthur yn well. Ac os gellir profi yn bod ni o'n bodd yn niweidio neb,[1]. cymmer di, O! Eryr ddial arnom. Ond ni ddyle'r gigfran gael ei hewyllys; nid oes chwaith goel ar i gair nai llŵ hi, mwy nag ar fytheiriad ci; hi fedr dyngu cant o lwon, am y gallo hi lyngcu eraill. Ac am y gweddiau hirion, rhai'n sy'n pwyso ar ei chylla hi; mae'n rhaid i ni barhau nes y caffom gan Noah wrando. Ie, di weli dy hunan ein bod ni yn cael agos bob peth ar yr ydym ni yn i ofyn; yr ydym ni yn curo wrth ystlysau yr Arch, ac yntau yn agor i ni.

Er. Henwa un peth a gafodd y colomennod?

Col. Ni a weddiasom ar i ni y colomennod gael y llaw uchaf yn y rhyfel, ac am lawer peth arall, ac fe ai rhoddwyd i ni.

Cigf. Ai colomennod oeddychwi yn amser y rhyfel? tebyccach i gythreuliaid o lawer.

Col. Gwir yw fod rhai adar afreolus wedi taro ar ein plaid, a'r rheini a wnaethant gammau drwy blundrio'r gwledydd.

Cigf. Crawcc. Mi glywn ar fy nghalon ladd y golomen wenhieithus ymma.

Er. Digon: Mi welaf y mynnit ti ddechrau rhyfel arall o newydd bes gellit. Digon yw hynny o ymladd; di gefaist dy guro yn fynych.

Cigf. Gâd iddo: mi gaf ddiwrnod etto.

Er. Etto fyth! di soniaist lawer gwaith am gael y llaw uchaf. Bydd gall o'r diwedd; a chofia mai esmwythdra'r ynfyd ai lladd.[2] Canys ni chlyw esmwyth fod yn esmwyth.

Cigf. Esmwyth, meddi di: mi fynnwn bei gwyddit ti mor anesmwyth ydwi etto.

Er. Os byddi esmwyth ynot dy hunan, di gei bob peth yn dda. Gochel fod fel Cain filain, neu fel Balaam ddichellgar, neu fel Ahitophel gyfrwys, neu fel Absolon aflonydd, neu fel Suddas fradwr, neu ryw anifail drwg; neu yn afreolus fel y môr. Oni phrynaist ti synwyr

  1. Act. xxv. ii
  2. 2 Diar. i. 32.