Tudalen:Llyfr y Tri Aderyn.pdf/41

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

etto? Gochel neidio o'r badell ffrio i'r tân; mi ddywedais o'r blaen i ti, mae y rhwyd a weuodd dy falais dy hun sydd yn dy faglu.

Cigf. Ond pam yr ydychwi yn fy ngalw i yn Gigfran?

Er. Tra fo'ch di Gigfran, rhaid yw dy alw di felly?

Col. Os paid y gigfran ai chreulondeb, fe ai hoffir hi fel aderyn arall. Nid oes ynofi na chwerwedd bustl na malais yn ei herbyn. Ond y mae yn ddrwg gennif drosti.

Er. Fe allai y gellir i newid hi er hyn i gyd.

Cigf. Mae Noah wedi fy ngwrthod i, ac nid gwaeth i mi beth a wnelwyf os gwrthodedig ydwyf.

Er. Nid efe a'th wrthododd di, ond dydi ai gwrthodaist ef, ac a [1]aethost ymmaith. Cariad ac ewyllys da yw efe, ac nid oes dywyllwch ynddo: hawdd ganddo faddeu i'r gwaethaf; anhawdd ganddo ddigio, a gwych ganddo hir-ymaros.

Cigf. Ond mae llawer yn dywedyd i fod ef wedi gwrthod llawer, a dewis rhai cyn i geni.

Er. Mae hyn tu hwnt i'm dysg i: fe alle y gŵyr y golomen y dirgelwch hwn. Beth a ddywedi di?

Col. Anhawdd dywedyd, ac anhawdd deall pa fodd y mae'r dyfnder hwn yn Noah. Ond mi ddarllenaf i chwi yr A, B, C, cyntaf fel hyn. Mae ynghragwyddoldeb dri yn un, sef, ewyllys, cariad, a nerth, a'r naill yn ymgyrhaeddyd erioed a'r llall, ac yn ymborthi, ac yn [2]ymgenhedlu yn i gilydd byth. Oni bai fod pleser cariad tragwyddol i borthi'r ewyllys anfeidrol, ni byddai neb yn gadwedig. Ac oni bai fod cynhyrfiad yr ewyllys cyntaf yn dân lloscadwy, ni byddai neb yn golledig. Ac oni bai fod y tri fel hyn yn cydweithio, ni buasai na dyn, nag angel, nag anifail, na dim arall wedi i wneuthur. Mae rhai wedi ymescor erioed yn y cariad drwy yscogiad yr ewyllys, yr hwn sydd yn i gwasgaru fel gwreichion allan o hono ei hun, ac yn i tymheru yn nwfr y difyrwch, yr hwn yw'r Arch, nid yw gwreiddyn y tri ond cariad ynddo ei hun, heb gashau neb. Ond [3]yn yr ewyllys gweithgar hwnw mae'r

  1. Ezec. xxxiii. II.
  2. Diar. viii.
  3. Ioan iv. 8.