Tudalen:Llyfr y Tri Aderyn.pdf/50

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

mab Constantin. Cymry, medd eraill, a ganfu America gyntaf. Bruttaniaid a safasant hyd angau dros y ffydd gywir. [1]Y nhwy y mae Esay yn i galw ascell y ddaear (medd yr hen Israeliaid) ac o ynys Brydain yr â (medd ilawer) allan, dân a chyfraith, a Iluoedd drwy'r hollfyd.

Cigf. Och! ffolineb yr Eryr yn hynn. Roedditi o'r blaen yn canlyn yn wych dy ddiharebion. Ond nid oes un o'r pregethwyr newyddion yn canlyn ei dext. Mae nhwy fel gwiwerod yn neidio o'r naill gaingc i'r llall, heb ŵr doeth yn ei mysg.

Er. Am hynn, cofia di mai mynych y pregethodd Iachawdwr y byd ar y ddaiar; weithiau ym mhen mynydd, weithiau mewn llong, weithiau mewn tŷ, ac weithiau mewn synagog. Ond nid ydym ni yn darllain iddo gymmeryd erioed un text o'r Bibl, ond unwaith allan o Esay. A thrwy na bo y rhain yn pregethu ond y gwir, nid oes fatter am ddilyn llythyren un text. Text pregethwr yw gwirionedd. Testyn gwr Duw yw'r holl Fibl. Ac mae llyfr ymhob dyn, er na fedr fawr i ddarllain. Ond na phregethed, ac na ddyweded neb ond y peth y mae efe yn barod iw selio â'i waed.

Cigf. Gâd iddo. Ni soniai ond hynny am iddynt ganlyn ei text. Ond mae nhwy'n dyscu yn erbyn y gwirionedd. Ac mae un peth a ddyle beri i'th glustiau di ferwino, Mae nhwy yn dywedyd yn hyf fod y Drindod yn aros, ac yn cartrefu yn sylweddol, ymhob dyn da. Ac onid yw hyn un o'r heresiau dinistriol, ni wn i beth sydd.

Er. Beth a ddywaid y golomen. A wyti yn tybied fod hyn felly.

Col. Dymma un o'r pethau dyfnaf. Dymma gwlwm caled, a drws wedi i gloi a'i farrio oddi wrth oesoedd. Ond fel dymma'r gwir, Mae un yscrythyr lân yn dywedyd [2]fod y Tad ynom, [3]a'r llall fod y Mab, a'r drydydd fod yr Ysbryd Glân ymhob calon bur, oleu, isel, nefol. Ac mae'r holl yscrythurau ynghyd yn dangos (a minnau a feiddiaf ddywedyd) fod y Drindod

  1. Esay xxiv. 16.
  2. Eph. iv. 6.
  3. 2 Cor. xiii. 5; Rhuf. viii. 9.